Lles ariannol yn y gweithle
Mae bron i 8 mewn 10 o gyflogeion yn y DU yn mynd â’u pryderon ariannol i’r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad.1 Yn ffodus, mae llawer o ffyrdd i hyrwyddo lles ariannol yn y gweithle.
Beth mae lles ariannol yn golygu
Mae am deimlo’n ddiogel a bod pethau mewn rheolaeth. Gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trwydydd iawn i ddyfodol ariannol iach. Yn fyr: hyderus a grymus.
Dyna ein diffiniad yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Rydym eisiau gweld pawb yn y DU yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau. Rydym yn rhoi cyngor diduedd am ddim sy’n helpu unigolion i wneud dewisiadau ariannol cadarn. Rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr a’u partneriaid i wella lles ariannol yn y gweithle.
Pam mae’n bwysig yn y gweithle
Pryderon ariannol yw achos mwyaf straen i gyflogeion yn y DU. Maen yn niweidiol i’r busnes hefyd, ac yn aml yn arwain i salwch staff. Mae’r ddadl dros les ariannol yn y gwaith yn gymhellol.
Collir 4.2 miliwn o ddiwrnodau gweithwyr bob blwyddyn mewn absenoldebau oherwydd diffyg lles ariannol. Mae hynny’n gyfwerth â £626 miliwn mewn allbwn colledig.2
Mae bron i 7 mewn 10 o gyflogwyr yn y DU yn credu bod perfformiad staff yn cael ei effeithio’n negyddol pan fydd cyflogeion dan bwysau ariannol.3
Dysgwch fwy am sut gall ymwneud â lles ariannol fod o les i’ch gweithle
Eisiau gwybod mwy?
Mae ein Lles Ariannol yn y Gweithle – Y Canllaw Hanfodol i Gyflogwyr yn amlinellu saith cam syml y gallwch eu cymryd i gefnogi eich gweithlu gyda’u lles ariannol.
Darganfyddwch sut gall cyflogwyr cefnogi lles ariannol eu gweithwyr
Mae ein hadolygiad thematig un tudalen ar y pwnc hwn yn crynhoi ystod o ymchwil ar pam dylai cyflogwyr gynnig cymorth, a sut dylid llunio rhaglenni lles ariannol (yn Saesneg)
Archwilio ymchwil ehangach ar ein Hwb Tystiolaeth (yn Saesneg)
Sut gallwn eich cefnogi
Mae’r mentrau a rennir ar y tudalennau hyn yn tynnu ar ein harbenigedd, cymorth, ac adnoddau. Byddant yn eich helpu i wella lles ariannol yn eich gweithle.
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.
Ffynonellau
1 Mae 94% o gyflogeion yn y DU yn cyfaddef i boeni am arian ac, o’r rheiny, mae 77% yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio arnynt yn y gweithle.
Close Brothers, The Financial Wellbeing Index (2019).
2 Centre for Economics and Business Research, Financial wellbeing and productivity: A study into the financial wellbeing of UK employees and its impact on productivity, 2018 (yn Saesneg).
3 69% o gyflogwyr y DU. Neyber (2018), The DNA of Financial Wellbeing 2018 (yn Saesneg)