Lles ariannol yn y gweithle

Cefnogaeth a mewnwelediad wedi'i deilwra

Dylunio a datblygu’ch arferion da eich hun y gallwch eu rhannu â’r cymuned busnes ehangach gan ddefnyddio’n hymchwil. Mae hyn yn cynnwys egwyddorion dylunio i greu rhaglen neilltuol o fentrau a gweithgareddau a sut i asesu eu effeithlonrwydd.  

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau i drafod yr opsiynau cymorth a mewnwelediad penodol.

Sefydlu strategaeth lles ariannol

Byddwn yn eich helpu i wneud yr achos busnes i les ariannol yn y gwaith, datblygu dull strategol o ymdrin â lles ariannol, a gwerthuso eich strategaeth.

Gwelwch ein pecyn cymorth gwerthuso (yn Saesneg) 

Holi eich staff

Defnyddiwch ein banciau cwestiynau i ddatblygu holiaduron i staff ar faterion ariannol, ac i fesur newidiadau mewn canlyniadau lles ariannol.

Gwelwch ein banciau cwestiynau ar gyfer oedolion (yn Saesneg) neu oedolion ifanc (oed 16-25) (yn Saesneg).

Ceisio cynllun peilot â ni

Arloeswch ffyrdd newydd o gynorthwyo lles ariannol trwy geisio cynllun peilot â ni. Rydym wedi ymrwymo i arbrofi â mentrau, casglu tystiolaeth, a dysgu o’r gweithgareddau hyn fel rhan o Rwydwaith Beth sy’n Gweithio Llywodraeth y DU.

Er enghraifft, mae PACE (a elwir hefyd yn ‘Rhwydwaith Ymgynghorwyr Ariannol’) yn gynllun peilot fydd yn symleiddio sut mae credydwyr yn cyfeirio cwsmeriaid sy’n cael trafferthion ariannol i gyngor annibynnol ar ddyledion.

Dysgwch fwy am gynllun peilot PACE (yn Saesneg) 

Ar gyfer cyfleoedd i geisio cynllun peilot a clywed am gynlluniau peilot presennol, cadwch mewn cysylltiad trwy ein cylchlythyr misol, cyfryngau cymdeithasol, neu cysylltwch â’n tîm partneriaethau.

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol