Siarad Arian Siarad Phensiynau

Wythnos Siarad Arian Siarad Phensiynau 2019

Thema’r Wythnos Siarad Arian Siarad Phensiynau 2019 yw lles ariannol.

Mae lles ariannol yn ymwneud â phobl yn teimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth – gan wybod nid yn unig eu bod yn gallu rheoli o ddydd i ddydd a delio â’r annisgwyl, ond eu bod hefyd yn adeiladu tuag at ddyfodol ariannol iach.

Mae cenedl sy’n iach yn ariannol, nid yn unig yn dda i unigolion, ond hefyd i gymunedau, busnes a’r economi.

Trwy’r wythnos, rydym am annog mwy o bobl i weithredu i wella eu lles ariannol eu hunain a lles ariannol y rhai o’u cwmpas – p’un ai trwy gael mynediad at gyngor ar ddyledion am ddim, cynilo’n rheolaidd, ceisio addysg ariannol neu ddibynnu llai ar gredyd am wariant bob dydd.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Pawb!

Mae Wythnos Siarad Arian Siarad Phensiynau yn gyfle gwych i ymuno, dechrau neu arwain y sgwrs. Mae ar gyfer unrhyw un, neu unrhyw sefydliad, sy’n gweithio i helpu pobl i ddelio’n well â materion ariannol, neu unrhyw sefydliad sydd eisiau dysgu mwy am les ariannol a’r hyn y gallai ei olygu iddyn nhw.

Rwyf am wella lles ariannol i…

Fy hun

Fy sefydliad

HelpwrArian: Canllawiau arian a phensiwn diduedd am ddim

Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a'ch dewisiadau pensiwn yn gliriach. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi ac yn rhydd i'w ddefnyddio.

 
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol