Cyfeirio at ein canllaw diduedd am ddim
Rhannu ein cysylltiadau mewn cyfathrebu mewnol
Ffordd gyflym i ddechrau adeiladu lles ariannol yn eich gweithle yw cynnwys dolenni i’n canllaw arian a phensiynau ar eich mewnrwyd a chyfathrebu mewnol.
Adrodd a chymorth
Byddwn yn darparu dolen i chi a fydd yn caniatáu i ni fonitro faint o’ch gweithwyr sy’n ymweld â ni o’ch cyfathrebiadau mewnol. Byddwn yn hapus i rannu’r wybodaeth hon â’ch sefydliad.
Ddim yn gallu dod o hyd i’r arweiniad rydych chi am gysylltu ag ef? Cysylltwch â’n tîm partneriaethau.
Dysgu mwy am gysylltu â ni a defnyddio ein logos (yn Saesneg)
HelpwrArian
www.moneyhelper.org.uk/cy
Llinell gymorth HelpwrArian: 0800 765 1012
Am ystod o ganllawiau arian, teclynnau a chyfrifianellau i wella cyllid personol.
Cymorth ar gael:
- Cynnwys Cymraeg a Saesneg
- ar-lein
- canllawiau printiedig, hefyd ar gael yn Braille, fformatau print bras a sain
- webchat
- dros y ffôn, a
- chyngor ar ddyledion am ddim dros y ffôn ac wyneb yn wyneb trwy’r sefydliadau rydyn ni’n eu hariannu.
Dosbarthwch ein canllawiau printiedig
Ffordd arall o rannu ein canllawiau â’ch gweithwyr yw dosbarthu ein canllawiau printiedig am ddim.
Gall busnesau preifat archebu 2,000 o gopïau o bob un o’n canllawiau am ddim y flwyddyn.
Gall cyflogwyr dielw a’r sector cyhoeddus archebu copïau diderfyn.
Ymhlith y pynciau yn y canllawiau HelpwrArian hyn mae:
- rheoli arian
- pensiynau
- cynilion
- diswyddo
- defnyddio undebau credyd
- cyfrif banc sylfaenol
- cael morgais
- problemau morgais, a
- rhyddhau ecwiti.
Mae canllawiau ar gael mewn fformatau Saesneg, Cymraeg, Braille, print bras a sain.
Archebwch yn: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/contact-us/free-printed-guides