Pwysau costau byw: yr hyn y mae angen i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig ei wybod
- Ansicrwydd busnes a chyllid personol
- Sut y gallwn helpu
- HelpwrArian: arweiniad arian diduedd, am ddim i unigolion
- Arweiniad cyllid busnes a phersonol
- Help i fusnesau, yr hunangyflogedig ac unig fasnachwyr o ganlyniad i’r coronaferiws
- Cysylltwch â Rhian Hughes
Ansicrwydd busnes a chyllid personol
Mae nifer o bobl yn y DU yn wynebu ansicrwydd pan ddaw at les ariannol, wrth i bwysau costau byw barhau a gydag effaith y pandemig yn cael ei deimlo o hyd.
Mae hwn yn gyfle allweddol i gysylltu eich gweithwyr â’r cymorth, yr arweiniad a’r wybodaeth sydd ar gael i’w helpu i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu sefyllfa ariannol.
Sut y gallwn helpu
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gorff hyd fraich i Lywodraeth y DU, ac mae’n helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.
Arweiniad arian am ddim, diduedd am gyflogwyr a phobl hunangyflogedig
Rydym yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad diduedd ac am ddim ar drafferthion pensiynau ac arian, yn ogystal â chefnogi darpariaeth a chyllidebu cyngor ar ddyledion.
Gallwch gysylltu â MaPS ar draws ystod o sianeli gydag unrhyw gwestiynau neu drafferthion sy’n seiliedig ar arian sydd gennych.
Nid ydym yma i ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud neu argymell cynnyrch penodol, ond rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen trwy unrhyw bryderon arian neu bensiynau sydd gennych, a, lle bo angen, yn trafod sut y gallwch gael mynediad i gyngor ariannol sydd wedi’i reoleiddio a chadw’n ddiogel yn eich materion ariannol.
Gwasanaethau mynediad rhwydd
Ein rôl yw helpu pawb i wneud y mwyaf o’u harian a phensiynau.
Mae ein gwasanaethau’n hygyrch trwy ystod o sianeli pell, fel ar-lein, dros y ffôn am ddim, gwesgwrs, TypeTalk a WhatsApp.
HelpwrArian: arweiniad arian diduedd, am ddim i unigolion
www.moneyhelper.org.uk/cy
Llinell gymorth HelpwrArian: 0800 765 1012
Rydym hefyd yn gweithredu o dan frand defnyddwyr HelpwrArian, y gall cyflogwyr gyfeirio gweithwyr y mae angen arweiniad a chymorth arnynt
Mae HelpwrArian yn bodoli i dorri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth sydd angen iddynt ei wneud a sut y gallant ei wneud. Mae yma i roi pobl mewn rheolaeth, gyda chymorth diduedd, am ddim sy’n gyflym i’w ddarganfod, yn hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.
Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr chi. Ar-lein a dros y ffôn, fe gewch arweiniad clir ar arian a phensiynau. Gall HelpwrArian hefyd eich cyfeirio at wasanaethau dibynadwy, os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch.
Diogelwch rhag sgamiau
Rydym yn gweithredu o dan nifer o frandiau. Ni fydd ein gwasanaeth byth yn cysylltu â chi ar hap, argymell unrhyw gynnyrch ac mae’n anghyfreithlon i bersonadu MaPS, Pension Wise, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Rydym yn gwybod pan fydd ardaloedd lleol yn cael eu heffeithio gan fusnes mawr yn cau neu newid mewn cynllun pensiwn gall pobl ddod yn darged ar gyfer ymarfer diegwyddor. Ein rôl yw cynnig lle diogel i fynd am unrhyw bryderon arian neu bensiwn efallai sydd gennych.
Arweiniad cyllid busnes a phersonol
Mae ein gwefannau a gwefannau ein partneriaid yn cynnwys canllawiau a theclynnau gall fod yn ddefnyddiol, ar bynciau yn cynnwys:
Cael help gyda chostau byw
- Help os ydych yn cael trafferth gyda biliau a thaliadau
- Byw ar incwm gwasgedig
- Siarad â’ch credydwr
- Os ydych yn poeni am gyfraddau morgais cynyddol
- Defnyddio credyd yn ddoeth
- Cymru: Cael help gyda chostau byw
Cyngor ar ddyledion
Ni yw’r ariannwr fwyaf o gyngor am ddyled yn Lloegr. Darganfyddwch o ble y gallwch gael cyngor am ddyled am ddim waeth ble yr ydych yn y DU.
Pensiynau a buddsoddiadau
Mae’r canllawiau pensiwn hyn yn helpu eich gweithwyr i osgoi brysio mewn i benderfyniadau am ymddeoliad, ac yn helpu i gadw’ch arian yn ddiogel o sgamiau:
Dileu swydd
- Y Llawlyfr Diswyddo (archebwch am ddim fel canllaw printiedig neu mewn fformatiau hygyrch eraill)
- Cyfrifiannell tâl diswyddo
- Canllaw i wneud y mwyaf o’ch tâl diswyddo
- Gwybodaeth ar fudd-daliadau a chredydau treth pan rydych wedi colli eich swydd
- Gwybodaeth ar effaith diswyddo ar bensiynau
Help i fusnesau, yr hunangyflogedig ac unig fasnachwyr o ganlyniad i’r coronaferiws
Help i fusnesau, yr hunangyflogedig ac unig fasnachwyr
Mae’r llywodraeth a phartneriaid rydym yn eu hariannu fel Business Debtline wedi cyhoeddi arweiniad COVID-19 am fusnesau a phobl hunangyflogedig, yn cynnwys pynciau fel cyfraddau busnes, ffyrlo, grantiau a thaliadau treth.
- Canllaw coronafeirws Business Debtline i fusnesau ac unig fasnachwyr
- Cyngor y llywodraeth i fusnesau
- Canllaw cofrestru awtomatig y Rheoleiddwr Pensiynau a chyfraniadau pensiynau DC i gyflogwyr
- Taliad Salwch Statudol: canllaw y llywodraeth i gyflogwyr
Help i unigolion
Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.