Cynlluniau cynilo a ddidynnwyd trwy'r cyflogres
Helpwch eich gweithlu i gynilo arian ac adeiladu gwytnwch ariannol ar gyfer y dyfodol, ac i weithio tuag at nod a gwella tawelwch meddwl.
Lles ariannol yn y gweithle
Mae lles ariannol yn golygu teimlo’n ddiogel a mewn rheolaeth o’ch arian. I fod yn ymwybodol y gallwch dalu’r biliau heddiw, yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trywydd iawn am ddyfodol ariannol iachus. Yn fyr: yn teimlo’n hyderus ac yn rymus.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn trawsnewid lles ariannol yn y DU: rydym yma i sicrhau bod pob person yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian trwy gydol eu bywydau: o arian poced hyd at bensiynau. Pam? Oherwydd pam rydynt, mae cymunedau’n fwy iach, busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r ecomoni yn elwa ac mae uniogolion yn well eu byd. Mae Covid-19 wedi gwneud hwn yn fwy pwysig nag erioed fel rydyn ni gyd yn adfer o’i effaith.
Sut y gallwn eich helpu i feithrin lles gweithwyr
Mae ein lles corfforol, meddylion ac ariannol wedi’u cysylltu’n agos. Mae cefnogi lles ariannol gweithwyr fel rhan cyffredinol o strategaetrh lles a buddion gweithwyr yn cael buddion clir i’r cyflogwr a’r gweithiwr, ond mae llawer o gyflogwyr yn ei chael hi’n anodd i lywio’r llu o ymyriadau sydd ar gael.
Gall MaPS eich helpu i archwilio:
- yr hyn y gallwch chi ei wneud i feithrin lles gweithwyr
- yr hyn sydd fwyaf effeithiol, a
- sut i’w hybu.
Mae cynilo trwy eich cyflogres yn un o nifer o ffyrdd o hybu lles ariannol yn eich gweithle.
Beth yw cynilo trwy gyflogres?
Cynilo trwy gyflogres yw cynilo’n rheolaidd yn uniongyrchol o gyflog gweithiwr. Mae’r cyflogwr yn didynnu’r swm y mae’r gweithiwr yn dymuno cynilo yn uniongyrchol o’u cyflog trwy’r cyflogres.
Yn debyg i gynilion pensiwn, mae natur ‘penu ac anghofio’ y broses hon yn ei wneud hi’n hawdd i bobl cynilo trwy ei wneud yn gyson ac yn ddiymdrech.
Mae cynlluniau cynilo trwy gyflogres yn anelu at gronni byffer cynilion neu gefnogi cynilo ar sail nod trwy ddargyfeirio cyfran o gyflog i mewn i gyfrwng cynilo bob mis.
Tair math o gynllun cynilo trwy gyflogres
- Arunig: gwneir taliadau awtomataidd yn uniongyrchol o dâl gweithiwr i mewn i gyfrif cynilo.
- Ad-dalu ac arbed: gwneir taliadau awtomataidd yn uniongyrchol o gyflog gweithiwr i gyfrif cynilo yn ogystal â thalu benthyciad i ffwrdd.
- Yn gysylltiedig â phensiwn gweithle (cynilo ochr): gwneir taliadau awtomataidd yn uniongyrchol o gyflog gweithiwr i gyfrif cynilo, yn ogystal â chyfraniadau awtomataidd i mewn i bensiwn gweithle. Pan gyrhaeddir cap a osodir gan y gweithiwr ar gyfrif cynilo atodol, mae unrhyw beth ychwanegol yn mynd i mewn i bensiwn y gweithle, y gellir ei gael mynediad ato ar adeg ymddeol.
Buddion o gynllun cynilo didyniadau trwy gyflogres
Denu a chadw gweithwyr
Mae tystiolaeth addawol yn dod i’r amlwg ar effaith ac apêl cynilion cyflogres. Yn 2015 dangosodd Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol y Gyflogres yr hoffai 55% o weithwyr 16-65 oed i’w cyflogwr gynnig cynllun cynilo cyflogres.
Mae dau arolwg Cushon 2020 yn dangos bod 72% o’r gweithwyr a arolygwyd eisiau mynediad at gynllun cynilo yn y gweithle ac y byddai 92% o’r cyflogwyr yn gweithredu cynllun cynilion gweithle.
Gwella cynhyrchiant
Mae ymchwil yn dangos bod 8 o bob 10 gweithiwr y DU yn cymryd eu pryderon ariannol i’r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad. Lleihau straen ariannol a gwella cynhyrchiant trwy ddarparu’r gwasanaeth awtomatig hwn. (Close Brothers, The Financial Wellbeing Index, 2019)
Cefnogaeth sydd ar gael i gyflogwyr
Mae darparwyr cynnyrch ariannol sy’n gweithio gyda chyflogwyr i gynnig cynilion a didynnir o gyflogres, benthyciadau a chynlluniau taliad cyflog ymlaen llaw yn amrywio o undebau credyd i ddarparwyr fintech.
Er na all y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ddewis darparwr i chi, gallwn nodi’r dewisiadau cynnyrch sydd ar gael i chi.
Mae addysg ariannol ac arweiniad ar reoli arian yn bwysig i helpu’ch pobl i benderfynu a yw cynilion a ddidynnir trwy’r gyflogres yn diwallu eu hanghenion – ni ddylid ei gyflwyno yn lle cyfraniadau at bensiwn gweithle, ac ni ddylai pobl sefydlu cynllun cynilo cyflogres heb ystyried yn gyntaf os ydynt ar ben unrhyw ymrwymiadau dyled. Mae MaPS, a sefydlwyd gan y llywodraeth, yn ddarparwr diduedd o ganllawiau arian a phensiynau ar arian a’r cyllidwr mwyaf o gyngor ar ddyledion yn y DU.
Cysylltwch â’n tîm partneriaeth isod i gael cefnogaeth bwrpasol am ddim.
Tystiolaethwch eich achos busnes
Cyn penderfynu a ddylid cynnig cynllun cyflogres a pha ddarparwr i fynd gydag ef, dylai cyflogwyr bob amser ystyried anghenion lles ariannol eu gweithlu, er enghraifft trwy arolwg, i helpu i adeiladu achos busnes.
Tystiolaethwch eich dull gweithredu ymhellach gyda’n mewnwelediadau a’n hymchwil a ariennir gan MaPS ar gynilo o gyflogres.
Tystiolaeth am gynilo atodol cyflogres
Mae BT, StepChange, Prifysgol Glasgow a Timpson yn cymryd rhan mewn treial ymchwil o gynilion cyfunol, lle gall staff ddewis didyniadau awtomatig o’u cyflog i mewn i bot cynilo hylifol, ochr yn ochr â chyfraniadau i bensiwn gweithle. Mae dysgu cynnar yn dangos bod cefnogaeth gan gyflogwr i’r syniad a dyluniad y cynnyrch yn uchel, ac mae ymdeimlad cryf y gallai’r mecanwaith didynnu cyflog fod yn ffordd effeithiol iawn i ddechrau’r arfer o gynilo.
Mae cyflogwyr yn dweud y gall arbedion cyflogres leihau’r angen iddynt gynnig mathau ychwanegol o gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau a blaensymiau cyflog, a all ofyn am weinyddiaeth ddwysach.
Mae’r treial parhaus yn sicrhau bod yr teclyn cynilo hwn ar gael i ystod eang o weithwyr, gan gynnwys pobl sydd ar incwm isel, rhan-amser a gweithwyr tymhorol.
Tystiolaeth o gynilo cyflogres gydag undeb credyd
Gweithiodd Cyngor Dinas Leeds a GIG Efrog gydag Undeb Credyd Leeds i redeg cynllun cynilo cyflogres, a phrofi cymell cynilion a defnyddio hyrwyddwyr staff fel modelau rôl. Roedd 70% o’r gweithwyr a gofrestrodd yn y cynllun yn cynilo bob mis ac roeddent 18% yn fwy tebygol o wneud hynny na’r rhai nad oeddent yn aelodau.
Bu MaPS yn cydweithio â’r Behavioural Insights Team (BIT) i werthuso’r broses o gyflwyno cynlluniau cynilion trwy’r gyflogres mewn dau fusnes bach a chanolig yng Ngogledd Iwerddon. Roedd y nifer sy’n derbyn cynilion trwy’r gyflogres yn y ddau gwmni tua 5–10%. Mae hynny’n gymharol uchel o’i gymharu â thystiolaeth o gyfraddau derbyn mewn cynlluniau eraill yn y DU.
Lawrlwythwch ymchwil i gynilion trwy’r gyflogres gydag undeb credyd yng Ngogledd Iwerddon
Darganfyddwch eich undeb credyd agosaf (yn Saesneg)
Cynyddu ymgysylltiad â gwyddoniaeth ymddygiad
Archwiliodd prosiect gyda Capita a Level Financial Technology y ffordd orau o annog pobl i fanteisio ar gynilion y gyflogres drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad i wella ymgysylltiad gweithwyr. Bu’r prosiect hefyd yn ymchwilio i wahanol ddulliau o annog cynilwyr trwy’r gyflogres i gynyddu lefelau cynilion
Lawrlwythwch ymchwil i ddefnyddio gwyddor ymddygiad er mwyn ennyn diddordeb gweithwyr
Tystiolaeth ar gyfer cynlluniau cynilo trwy’r gyflogres yn awtomatig
Yn 2022, lansiwyd treial newydd yn y gweithle i brofi a allai mecanwaith optio allan alluogi llawer mwy o bobl sydd am gynilo drwy’r gyflogres ar gyfer y tymor byrrach i ddechrau arni.
Dysgwch fwy am ddulliau optio allan o ymuno
Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.