Meithrin lles ariannol i gyflogeion a phrentisiaethau ifanc
Nid oes gan ddau draean o oedolion ifanc unrhyw gynlluniau i’w helpu i drosglwyddo o’r ysgol i weithio neu hyfforddi, ac nid yw lleiafrif sylweddol o oedolion ifanc yn hyderus wrth reoli eu harian. (Gwasanaeth Cynghori Ariannol, 2016)
Gan fod llawer o bobl ifanc yn teimlo effetihiau economaidd pandemig Covid-19, mae’n bwysicach nag erioed i sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian yn dda.
Boed a ydych yn cyflogi prentisiaethau, darparu cyfleoedd i bobl ifanc trwy gynllun Kickstart y llywodraeth, neu’n edrych i ddatblygu gwytnwch economaidd eich gweithlu ifanc, gallwch eich helpu.
Ymyriadau effeithlon
Mae pobl ifanc yn fwy tebygol i ennill sgiliau ariannol hanfodol pan allant roi eu dysgu ar waith – er enghraifft pan fyddant yn dechrau cael eu tâl cyntaf.
Dyna pam gall cyflogwyr wneud gwir wahaniaeth trwy gefnogi eu cyflogeion, hyfforddeion, a phrentisiaid ifanc i gael mynediad at raglen neu adnoddau sgiliau ariannol. Bydd hyn yn ogystal â gwella lles ariannol eich cyflogeion, yn eich helpu i feithrin gweithlu gwydn ac osgoi effeithiau negyddol straen ariannol ar eich busnes.
Cymorth i’ch cyflogeion ifanc a’ch busnes
Rydym wedi casglu gwybodaeth am ystod o raglenni ac adnoddau sy’n diwallu anghenion pobl sy’n dechrau yn y gweithle.
Beth bynnag sy’n gweithio i chi – dysgu hunanarweiniedig neu gynorthwyedig, adnoddau am ddim neu raglenni mwy dwys – darganfyddwch raglen a all helpu’ch cyflogeion ifanc gosod y sylfeini ar gyfer eu lles ariannol yn y dyfodol.
Mae’r rhaglenni ac adnoddau hyn naill ai’n cael eu cynnig gan gyflenwyr achrededig neu’n cael ei gynorthwyo gan asesiad.
Ymyriad a sefydliad | Disgrifiad | Dull Cyflenwi | Lleoliad | Ffi |
Academi Ariannol (Open University / Money Saving Expert) | Dysgu ar-lein hunanarweiniedig ar gyfer pob oedran | Digidol | Ar draws y DU | Am ddim |
Gwersi mewn addysg ariannol (LiFE) Gwobr/Tystysgrif (yn Saesneg) (London Institute of Banking and Finance) | Gwybodaeth rheoli ariannol ar gyfer pobl ifanc | Digidol | Yr Alban | Am ddim |
Arian Doeth (Youth Cymru) | Canllawiau ymarferol ar ddatblygu sgiliau ariannol oedolion ifanc’ , ar gael yn Gymraeg a Saesneg | Canllaw | Cymru | Am ddim |
Gwaith Arian (yn Saesneg) (MyBnk) | Sesiynau cynorthwyedig i bobl 16-25 oed sy’n symud i fyw’n annibynnol | Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir | Ar draws y DU | Ffioedd a godir |
Modiwlau ar-lein Money Works (yn Saesneg) (MyBnk and the Mix) | Modiwlau dysgu hunanarweiniedig i bobl 16-25 oed, gan ganolbwyntio ar y rheiny sy’n symud i fyw’n annibynnol | Digidol | Ar draws y DU | Am ddim |
Sesiynau ariannol i bobl ifanc (yn Saesneg) (The Money Charity) | Sesiynau cynorthwyedig i bobl 16-19 oed | Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir | Ar draws y DU(wyneb yn wyned yng Nghymru a Lloegr yn unig) | Ffioedd a godir |
Arian Gwaith (yn Saesneg) (MyBnk) | Sesiynau cynorthwyedig i bobl 18-30 oed prentisiaethau, graddedigion a chyflogeion yng nghyfnodau cynnar ey gyrfaoedd | Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir | Ar draws y DU | Ffioedd a godir |
Sesiynau Ariannol yn y Gweithle a Weminarau (yn Saesneg) (The Money Charity) | Sesiynau cynorthwyedig i brentisiaid a chyflogeion ifanc | Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir | Ar draws y DU (cynflenwi wyneb yn wyneb yn Lloegr yn unig) | Ffioedd a godir |
Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.