Mewnosod ein cynnwys ar gyfer gweithwyr a chwsmeriaid
Syndicateiddio ein canllawiau, offer a chyfrifianellau
Helpwch eich gweithwyr a’ch cwsmeriaid yn uniongyrchol trwy ymgorffori ein hadnoddau yn eich mewnrwyd neu’ch gwefan allanol.
Mae ein cynnwys sydd wedi’i syndiceiddio yn ddidal ac yn helpu pobl â digwyddiadau bywyd, o gael babi i ddadansoddiadau perthynas a phrofedigaethau. Ar ben darparu gwybodaeth, mae yna declynnau cyflym i gyfrifo pensiynau yn dilyn cofrestriad awtomatig, a deall treth ac yswiriant gwladol, slipiau cyflog, statws credyd, opsiynau cynilo, cyllid ceir, fforddiadwyedd morgais a threth stamp. Hefyd, ein Cynlluniwr Cyllideb poblogaidd a’n Lleolwr Cyngor Dyled hanfodol.
Mae’r adnoddau hyn hefyd ar gael yn Gymraeg.
Mewnosod ein fideos
Defnyddiwch ein fideos i ennyn diddordeb eich tîm a’ch cwsmeriaid ar bynciau allweddol fel arian ac iechyd meddwl, cyllidebu a sut i osgoi sgamiau.
Porwch sianel YouTube y HelpwrArian.
Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.