Lles ariannol yn y gweithle
Rhannu arfer da
Mae cyflogwyr yn defnyddio llawer o ffyrdd i feithrin lles ariannol. Defnyddiwch yr enghreifftiau a syniadau hyn i’ch helpu i ddechrau.
Creu diwylliant gwaith lle bydd pobl yn gyffyrddus â siarad am arian
- Dylai fod llysgenhadon lles ariannol ar bob lefel o’ch rheolaeth, gan gynnwys lefel y bwrdd.
- Gwahoddwch arbenigwyr fel eich darparwr pensiynau, ymgynghorydd ariannol annibynnol, a arbenigwr morgeisi’ch banc lleol i drafod materion ariannol â’ch cyflogeion.
- Darparwch wasanaethau cynghori cyfrinachol, lle gall cyflogeion drafod eu sefyllfaoedd ariannol.
- Dylech gynnwys lles ariannol mewn cyflyniadau, polisïau adnoddau dynol, ac o gwmpas digwyddiadau bywyd, fel mynd ar absenoldeb rhiant, prynu ty, wynebu diwedd perthynas, neu brofedigaeth, dychwelyd i’r gwaith, cael dyrchafiad, nesáu at ymddeol, a gadael swydd.
- Ychwanegwch adran lles i’ch mewnrwyd. Cysylltwch â ni a gallwn helpu trwy ychwanegu cynnwys am ddim.
Partneru â chyflenwyr eraill
- Gweithio ag undeb credyd lleol a chenedlaethol sy’n darparu cynilion cyflogeion, benthyciadau, neu wasanaethau yswiriant, gan dynnu ad-daliadau’n uniongyrchol o’r cyflogres.
- Partneru ag arbenigwyr eraill ym meysydd cymorth pensiynau, cynlluniau cynilo cyflogres, cynlluniau benthyciadau a thaliadau cyflog ymlaen llaw, ac addysg ariannol.
Adolygu’ch Cynllun Cymorth Cyflogeion os oes gennych un
- Lleddfu baich costau cymudo â benthyciadau tocynnau tymor a cynlluniau beicio i’r gwaith (yn Saesneg).
- Rhoi mynediad at ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig i gyflogeion a chael rhyddhad treth a chyfraniadau yswiriant gwladol yn ôl.
- Negodi yswiriant bywyd ac yswiriant diogelu incwm grwp ar gyfer eich cyflogeion, gan ddarparu diogelwch ariannol ar gyfer eu hanwyliaid yn achos marwolaeth, anafiad, neu salwch hirdymor.
- Gall yswiriant iechyd trwy’r gweithle roi buddion meddygol ychwanegol i gyflogeion.